Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 2 Chwefror 2023
Amser: 09.00 -
14.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13297
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Sharon Lovell, Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru Jackie Murphy, Tros Gynnal Plant Emma Phipps-Magill, Voices from Care Ben Twomey, National Youth Advocacy Service (NYAS) Cymru Elizabeth Bryan, Rhwydwaith Maethu Cymru Mike Anthony, TACT Cymru Rhian Carter, Gweithredu dros Blant Matt Lewis, Gweithredu dros Blant Sarah Thomas, Rhwydwaith Maethu Cymru Helen Mary Jones, Voices From Care Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - digwyddiadau i randdeiliaid [gwahoddedig yn unig]
1.1 Mae’r Aelodau'n cyfarfod â gweithwyr
proffesiynol ac academyddion i drafod ansawdd gwasanaethau a chefnogaeth i blant mewn
gofal.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
3 Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - sesiwn dystiolaeth 3.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gweithredu
dros Blant, y Rhwydwaith Maethu a TACT Cymru.
4 Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - sesiwn dystiolaeth 4.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Voices from Care, Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) Cymru a Tros Gynnal Plant Cymru.
4.2 Cytunodd NYAS Cymru i roi ystadegau i'r Pwyllgor yn ymwneud â nifer y plant a phobl ifanc sydd mewn llety heb ei reoleiddio.
4.3 Cytunodd Voices from Care i ddarparu adroddiad drafft i’r Pwyllgor ar yr ymchwil a wnaed o dan y Cynllun Pan Fydda i’n Barod.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 6 a 9 o'r cyfarfod hwn.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - trafod y dystiolaeth.
6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn
ystod y sesiynau blaenorol.
7 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2021 - 2022
7.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Estyn ynghylch ei Adroddiad Blynyddol.
7.2 Cytunodd Estyn i ddarparu canfyddiadau darn o waith thematig sy'n cael ei wneud ar weithredu'r system ddiwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd i'r Pwyllgor pan fydd ar gael.
8 Papurau i'w nodi
8.1 Cafodd y papurau eu nodi.
9 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020 – 2021: trafod y dystiolaeth
9.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol gydag Estyn.